Cymraeg English A  A  A  Text Only  Skip Navigation

Fframwaith Strategol

Fframwaith Strategol

Mae Strategaeth a Chynllun Busnes PTCC yn cyd-fynd yn dda gyda’r strategaethau presennol sy’n effeithio ar ranbarth y Canolbarth.

Ar Lefel Genedlaethol:

Mae Adfywiad Economaidd: cyfeiriad newydd - yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer adfywio’r economi sy’n seiliedig ar economi Gymreig wedi’i chodi ar gryfderau a sgiliau’r bobl a’r amgylchedd naturiol; sy’n cael ei chydnabod adref a thramor fel un hyderus, creadigol ac uchelgeisiol; fel lle gwych i fyw a gweithio ynddo.  

Cynllun Gofodol Cymru - Pobl, Lleoedd, Dyfodol- yw’r hyn y tybiwn allai ac a ddylai digwydd.  Mae’n cyflwyno fframwaith strategol ar gyfer datblygu ac ymyriadau polisi yn y dyfodol.

Mae Creu’r Cysylltiadau - Cyflawni ar Draws Ffiniau - yn cyflwyno cynllun gweithredu sy’n ceisio newid sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, ac sy’n seiliedig ar anghenion pobl.  Y nod yw cychwyn cyfnod newydd o ran sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio fel tîm, fel eu bod yn ymatebol i bobl tra’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl a gwella perfformiad.

Mae Strategaeth Dwristiaeth yr Arfordir yn strategaeth sy’n disgrifio’r potensial sydd gan dwristiaeth arfordirol i ymateb i anghenion marchnad dwf mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Cyflawni Ein Potensial sef strategaeth dwristiaeth genedlaethol Cymru, yn cyflwyno cynllun gweithredu sy’n cynnig ymateb cydgysylltiedig i’r her fawr fydd yn wynebu’r diwydiant twristiaeth hyd at 2013.

Mae Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru - yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol bwyd i Gymru ac o Gymru, ac yn disgrifio ein hymrwymiad clir i’r prif egwyddorion sylfaenol sef Cynaliadwyedd, Gwydnwch, Bod yn Gystadleuol ac yn Broffidiol.

Ar Lefel Ranbarthol:

Strategaeth Adfywio Powys

Strategaeth Dwristiaeth Ceredigion