Cymraeg English A  A  A  Text Only  Skip Navigation

Strategaeth a Chynllun Busnes

Mae’r Strategaeth Dwristiaeth Ranbarthol yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer datblygu a marchnata twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru:

“canolbwyntio a chydgysylltu holl adnoddau’r rhanddeiliaid ar lefel ranbarthol, cefnogi a helpu i weithredu amcanion y blaenoriaethau twristiaeth cenedlaethol a lleol, cynyddu gwerth twristiaeth a thrwy hynny gyfrannu at adfywio Canolbarth Cymru yn ehangach ac yn fwy cynaliadwy”

Drwy’r Cynllun Busnes mae PTCC yn dehongli’r weledigaeth hon yn gamau gweithredu realistig sy’n seiliedig ar y themâu craidd o ddatblygu, hybu a marchnata’r cynnyrch; a sgiliau.  Gwnawn hyn drwy gefnogi a chydgysylltu prosiectau ymarferol o fewn 5 o brif flaenoriaethau:

  1. Datblygu’r Cynnyrch – sicrhau bod y cynnyrch sydd ar gael yn bodloni a rhagori ar ddisgwyliadau’r farchnad
  2. Brandio a Marchnata – datblygu dull cwsmer-ganolog drwy ddefnyddio brandiau lleoliad a brandiau eiconig yn ogystal â marchnadoedd arbenigol.
  3. Datblygu Sgiliau – datblygu cymorth busnes a hyfforddiant i wella ansawdd y gweithlu.
  4. Ymchwil a Gwybodaeth – sicrhau bod penderfyniadau wedi eu goleuo gan ddata cywir ac awdurdodol am y rhanbarth.
  5. Partneriaeth – cynnal a thyfu perthynas effeithiol gydag ystod o bartneriaid.