Search
Ymchwil
Gellir rheoli cyrchfannau’n well drwy ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad, a gwybodaeth arall, yn effeithiol.
Mae ystod eang o wybodaeth ansoddol a meintiol am dwristiaeth yn y Canolbarth yn cael ei hel ar lefel leol a chenedlaethol gan nifer o wahanol gyrff.
Rôl PTCC yw:
- Cefnogi partneriaid, Llywodraeth Cymru a phartneriaid twristiaeth, i hel a dadansoddi’r data ar ymwelwyr.
- Casglu gwybodaeth at ei gilydd ar lefel ranbarthol.
- Dosbarthu darganfyddiadau’r ymchwil i bartneriaid yn y diwydiant twristiaeth ac i’r gymuned ehangach.
- Sicrhau bod datblygu strategol yn cael ei oleuo gan ddealltwriaeth ddiweddar o’n marchnadoedd.
Croeso Cymru
Pwrpas ymchwil Croeso Cymru yw cynorthwyo’r prif waith a wneir gan Croeso Cymru, sef datblygu a marchnata twristiaeth, a chynnig dull wedi’i gydgysylltu o gyflawni ymchwil dwristiaeth yng Nghymru.
Mae gennym raglen ymchwil flynyddol, sy’n cynhyrchu ystod eang o ddata ar niferoedd, gwerth a nodweddion twristiaeth yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwerthuso perfformiad rhai o brif weithgareddau Croeso Cymru ac yn cefnogi’r diwydiant twristiaeth drwy ddarparu data ar berfformiad.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol, Awdurdodau Lleol a chyrff hamdden awyr agored / treftadaeth cenedlaethol ar faterion ymchwil twristiaeth.
Rhaglen Waith Graidd Croeso Cymru 2010/2011
Ewch i dudalennau ymchwil Twristiaeth Llywodraeth Cymru am yr ystadegau diweddaraf ar:
Tueddiadau Twristiaeth yng Nghymru
Ymweld ag atyniadau twristiaeth 2010 Cymru
Arolwg Twristiaeth y Deyrnas Unedig 2010 - Ion - Rhag
Arolwg Ymwelwyr Croeso Cymru 2009 - Ymwelwyr yn Aros
Arolwg Ymwelwyr Croeso Cymru 2009 - Ymwelwyr Undydd
Prif Ystadegau ar gyfer Cymru
- Yn 2010 roedd 8.69 miliwn o dripiau dros nos i Gymru gan drigolion y DU. Gwariwyd £1,450 miliwn yn gysylltiedig â hyn.
- Daeth 80% o’r ymwelwyr o’r DU i Gymru ar wyliau, daeth 12% i ymweld â ffrindiau neu berthnasau a 7% ar drip busnes.
- I Ogledd Cymru y daeth y rhan fwyaf o’r twristiaid dros nos o’r DU. Digwyddodd y rhan fwyaf o’r tripiau busnes dros nos yn y De Ddwyrain.
- Daeth 890,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru gan wario £333 miliwn yn 2010.
- Y gwledydd sy’n dod ar wyliau fwyaf i Gymru yw Gweriniaeth Iwerddon, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a Ffrainc.
- Roedd 39% o’r ymwelwyr Rhyngwladol ar drip gwyliau, 36% yn ymweld â ffrindiau neu berthnasau a 16% ar fusnes yn 2010.
- I gyd, daeth 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos i Gymru, gan wario bron i £1.8 biliwn yn 2010.
- Yn ôl yr arolwg diweddaraf o ymwelwyr undydd, roedd y gwariant blynyddol o dripiau twristiaeth yn £1.5 biliwn.
- Mae’r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) ym Mhrifysgol Caerdydd newydd ddiweddaru’r Is-Gyfrif Twristiaeth ar gyfer Cymru i sylfaen 2007. Ei bwrpas yw cynnig asesiad mwy cywir o gyfraniad Twristiaeth at yr economi. Mae’n dilyn methodoleg ryngwladol wedi’i chymeradwyo gan Sefydliad Twristiaeth Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO).
- Yn ôl y canlyniadau uchaf, mae cyfanswm y galw twristiaeth blynyddol yn tua £4.2 biliwn, gyda Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) o £1.8 biliwn wedi’i ychwanegu gan Dwristiaeth. Mae hyn yn cyfateb i 4.3% o GVA uniongyrchol ar gyfer economi Cymru. Mae’r ffigurau hyn yn cymharu â’r canlynol ar gyfer Is-Gyfrif Twristiaeth 2000: £3.5 biliwn am y galw, £1.1 biliwn o ran GVA a 3.7% o ran GVA uniongyrchol.
(diweddarwyd Awst 2011)
Am fwy o ystadegau twristiaeth STEAM meintiol, cliciwch isod: (STEAM - Scarborough Tourism Economic Activity Monitor - Scarborough oherwydd mai yno y datblygwyd y model i’w ddefnyddio yn y DU)



