Cymraeg English A  A  A  Text Only  Skip Navigation

Marchnata

Partneriaethau Ardaloedd Marchnata

I bwrpas marchnata ar lefel genedlaethol, mae’r Canolbarth wedi’i rannu ymhellach yn 3 ‘Ardal Farchnata’ neu’n ‘is-frandiau’: ‘Canolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog’; ‘Ceredigion & Bae Ceredigion’ a ‘Mynyddoedd ac Arfordir Eryri’.
Rydym yn rhoi cyllid i helpu ein gwahanol Ardaloedd Marchnata partner i gymryd rhan yn ymgyrchoedd cenedlaethol Croeso Cymru ac i ddatblygu a dosbarthu deunyddiau marchnata newydd ar themâu penodol fel golff, cerdded a chynadleddau.

Croeso Cymru

Yn 2010, bu Croeso Cymru’n gweithio’n agos gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru a’r Panel Cynghori ar Dwristiaeth Gweinidogol i gynhyrchu fframwaith strategol yn sail ar gyfer datblygu eu cynlluniau marchnata dros y tair blynedd nesaf.
 
Mae’r Cynllun Gweithredu Marchnata Strategol (SMAP) yn diffinio’r her fawr sy’n eu hwynebu fel corff marchnata twristiaeth cenedlaethol, ac yn disgrifio’r egwyddorion sylfaenol y byddant yn eu dilyn wrth iddynt drefnu eu hymgyrchoedd marchnata.    Nid yw’r SMAP yn ddogfen fanwl, ac nid yw’n disodli’r cynlluniau ymgyrchu unigol. Bydd y cynlluniau marchnata’n cyd-fynd â’r dull cyffredinol a ddisgrifir yn SMAP, ond byddant bob amser yn adlewyrchu amodau marchnad newydd ac anghenion ein rhanddeiliaid yn niwydiant twristiaeth Cymru.
 
Mae’r SMAP hefyd yn ceisio diffinio rôl farchnata Croeso Cymru’n well fel bod eu partneriaid a’u rhanddeiliaid yn gallu cynllunio eu gweithgareddau’n fwy effeithiol. Ein nod yw annog marchnata twristiaeth i Gymru tra’n osgoi unrhyw ddyblygu.