Search
Ein Gwaith
Mae Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru yn gweithredu Cynllun Busnes Blynyddol, sy’n cael ei gymeradwyo gan Croeso Cymru ac sy’n cynnwys targedau pendant ar gyfer y cwmni. Isod crynhoir y rolau sy’n creu sylfaen y gwaith o gynllunio busnes PTCC:
- Integreiddio agendâu’r sectorau preifat a chyhoeddus. Sicrhau twf a bod arian o dwristiaeth yn llifo i mewn ac yn aros yn yr ardal yn hytrach nag ailddosbarthu’r manteision sy’n deillio o wariant ymwelwyr.
- Eiriol dros a chynorthwyo cymorth ariannol y sector cyhoeddus a buddsoddiad y sector preifat yn y diwydiant twristiaeth. Mae ymgysylltu gyda’r sector preifat yn sialens enfawr, yn enwedig mewn ardal wledig fel Canolbarth Cymru. Fel mater o raid, mae llawer o waith y Bartneriaeth yn golygu cydgysylltu a chynnal amgylchedd lle bydd y sector preifat fwyaf ar ei ennill.
- Arwain y diwydiant a brocera partneriaethau rhwng asiantaethau cenedlaethol a grwpiau cymunedol a rhanbarthol. Cydgysylltu’r gweithgareddau sy’n digwydd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol a sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau, bod cyn lleied o ddyblygu â phosibl yn digwydd a bod manteision cyd-ddysgu’n cael eu rhannu.
Cymorth ariannol uniongyrchol (ar gyfer ymchwil, marchnata, hyrwyddo a datblygu’r cynnyrch, a sgiliau).



