Cymraeg English A  A  A  Text Only  Skip Navigation

Gweithgareddau

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae PTCC wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector gweithgareddau awyr agored ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yng Nghanolbarth Cymru i ddatblygu gwasanaeth cymorth busnes strategol a phwrpasol i’r sector twristiaeth weithgareddau yn y rhanbarth. O ganlyniad i’r gwaith hwn, cafodd y rhaglenni llwyddiannus ‘Ffit am Fusnes 1’, ‘Ffit am Fusnes 2’ a ‘Ffit am Fusnes 3’ eu cychwyn gyda nifer dda o’r sector yn cymryd rhan ynddynt.

Corff partneriaeth yw PTCC ac mae ei waith gyda’r sector gweithgareddau wedi llwyddo oherwydd y gwaith partneriaeth agos gyda grwpiau sy’n cynrychioli’r sector fel Cambrian Active, Eryri Bywiol a Thwristiaeth Bannau Brycheiniog (Beacons Active cyn hynny, a fu’n nodi anghenion a datblygu rhaglenni newydd)