Search
Cymorth i Fusnesau
Beth bynnag yw natur neu rychwant oes eich busnes, mae yna bob amser adegau pan fyddech yn elwa o gael mwy o wybodaeth neu gymorth ar sut i wneud y mwyaf o’ch busnes, diwallu anghenion presennol y farchnad, gwybod beth yw’r tueddiadau newydd yn y farchnad neu ddim ond i rwydweithio gydag arbenigwyr neu fusnesau tebyg. Nod PTCC yw adnabod yr anghenion hyn a chynnig gwybodaeth fel bod busnesau’n gallu datblygu a thyfu. Cliciwch ar y pwnc sydd o ddiddordeb ichi.
![]()
www.whodoiask.com ; yw'r adnodd gwybodaeth ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae'r wefan wedi ei chynllunio i chi, fel darparwyr twristiaeth. Mae'n'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth berthnasol p'un a ydych yn dechrau busnes, yn dymuno gwybod mwy am ddarparu ar gyfer eich cwsmeriaid, sut i ddenu busnes newydd, gwybodaeth ariannol, gofynion cyfreithiol a sut i rhedeg eich busnes o ddydd-i-ddydd.
Cymorth ar gael i Fusnesau Gogledd Ceredigion
Mae cymorth ar gael i fusnesau Gogledd Ceredigion trwy gynllun Twristiaeth Gynaliadwy ym Miosffer Dyfi. Mae dynodiad Biosffer UNESCO cyntaf Cymru ar yr ardal yn cynnig mantais ychwanegol i fusnesau twristiaeth, a bwriad y cynllun hwn ydy cynorthwyo busnesau Gogledd Ceredigion i wneud y gorau o'r sector newydd hwn ar gynnydd.
Mae'r cymorth gallwn ni ei gynnig yn cynnwys:
Cyngor ymarferol gan arbenigwr ar ffyrdd i weithredu mewn modd mwy cynaliadwy.
Cyfraniad at gost ymuno a chynllun achredu twristiaeth gynaliadwy.
Mynediad i rwydwaith marchnata newydd.
Cyfle i fusnesau gyfrannu at ddatblygiad "pecyn carbon isel" ar gyfer ymwelwyr.
I ddysgu rhagor am sut gall eich busnes chi elwa o hyn cysylltwch a Gwawr Davalan ar gwawr@ecodyfi.or.uk neu 01654 703965
Gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnesau Gwynedd
Ystyried sefydlu tudalen Facebook neu Trydar ar gyfer eich busnes? Angen sesiwn ymarferol i ddysgu mwy amdano?
Os ‘YNDW’ yw’r ateb i un o’r rhain, ac eich bod chi’n fusnes sy’n bodoli’n barod yng Ngwynedd, yna mae angen i chi gofrestru ar ein gweithdy.
Mi fydd y gweithdy yn egluro cam wrth gam sut mae’r gwefanau rhwydweithio cymdeithasol e.e Facebook a Trydar yn gweithio a hefyd beth yw budd eFasnach a eFarchnata ar gyfer eich busnes.
Mae’r gweithdai cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, ond mae llefydd yn brin, felly cysylltwch â thîm Galluogi nawr i sicrhau eich lle ar UN o’r dyddiadau canlynol:
9fed o Fai, 2012 yn Deudraeth Cyf, Penrhyndeudraeth – trwy gyfrwng y Gymraeg.
18fed o Fai, 2012 yng Nghanolfan Pwynt Busnes, Coleg Llandrillo Dolgellau – trwy gyfrwng y Saesneg.
I sicrhau lle ebostiwch zoe@annog.com neu rachel@annog.com neu ffoniwch 01766 514057
Ariennir drwy Galluogi, sy’n ran o gynllun ehangach Llwyddo yng Ngwynedd, sef yr enw ar gyfer prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yng Ngwynedd (2007-2013); sy’n cael ei gydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Busnesau Gwynedd - Aelodau o Deulu Fferm yn Unig
Ydych chi angen cynyddu incwm y fferm?
Chwilio am syniadau a chymorth i arallgyfeirio?
Os ‘YNDW’ yw’r ateb i un o’r rhain, ac eich bod chi’n aelod o deulu fferm, yna mae angen i chi gofrestru ar Bwtcamp Amaeth Gwynedd.
Cyfres o weithdai bywiog fydd yn:
· Tanio syniadau masnachol newydd ar gyfer eich busnes
· Egluro y cymorth sydd ar gael yng Ngwynedd
· Ymweld â busnesau sydd wedi arallgyfeirio'n lwyddiannus.
Mae Bwtcamp Amaeth Gwynedd yn rhad ac am ddim, ond mae lle i ddeg person yn unig, felly cysylltwch â thîm Galluogi nawr i sicrhau eich lle ar y dyddiadau canlynol, 3ydd, 8fed a 10fed o Fai, 2012.
01766 514057 zoe@annog.com
Ariennir drwy Galluogi, sy’n ran o gynllun ehangach Llwyddo yng Ngwynedd, sef yr enw ar gyfer prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yng Ngwynedd (2007-2013); sy’n cael ei gydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Ydach chi’n mwynhau Beicio, Cerdded, Dringo, Kayakio ac ati?
‘Da chi ‘rioed wedi ystyried cychwyn busnes yn y maes?
DYMA’CH CYFLE!
Ymunwch â sesiynau Bwtcamps twristiaeth Galluogi a gynhelir ar
draws Gwynedd er mwyn cymryd y camau cyntaf tuag
at ddechrau busnes yn y gweithgareddau dachi’n fwynhau!
Be gwell na troi eich hobi yn fusnes?
Dwy awr o ysbrydoliaeth i drafod syniadau, cyfarfod â phobl busnes
llwyddiannus Gwynedd a dysgu mwy am redeg menter eich hun.
Dydd Mawrth 29ain Mai, 2012
6.00 - 8.30yh Cellb, Blaenau Ffestiniog (Cyfrwng y Gymraeg)
Dydd Iau 31ain Mai, 2012
6.00 - 8.30yh Oakley Arms, Maentwrog. (Cyfrwng y Saesneg)
Mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim, ond mae lle i ddeg person yn unig.
I GOFRESTRU CYSYLLTWCH Â Zoe / Rachel 01766 514057
Neu ebostiwch zoe@annog.com neu rachel@annog.com



