Cymraeg English A  A  A  Text Only  Skip Navigation

Ein Rôl Ni

Ein cenhadaeth yw:

“Datblygu diwydiant twristiaeth deinamig a chystadleuol ar gyfer y Canolbarth sy’n cyflawni ei botensial o gyfrannu at economi’r rhanbarth a chynnal ei gymunedau, ei ddiwylliant a’i amgylchedd”.

Mae Cynllun Busnes PTCC yn nodi ein rhaglen waith a’n targedau manwl i sicrhau bod y cyllid a’r cymorth a fuddsoddir mewn twristiaeth yn y rhanbarth, gan amryw byd o wahanol asiantaethau a sefydliadau, yn cael ei gydgysylltu ac yn effeithiol.  Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu’n flynyddol ac yn cynnwys blaenoriaethau’r strategaeth dwristiaeth genedlaethol ehangach yn Cyflawni ein Potensial, a’r blaenoriaethau rhanbarthol yn y Strategaeth Dwristiaeth Ranbarthol. Mae hefyd yn ceisio ymgorffori, drwy ei waith, anghenion blaenoriaethau cenedlaethol ehangach Llywodraeth Cymru ar Gynaliadwyedd, Newid Hinsawdd, Trafnidiaeth ac Adfywio’r Economi.

Mae diwydiant twristiaeth cryf ac egnïol yn dibynnu ar greu a hyrwyddo profiad cofiadwy i’r ymwelydd. Mae hyn yn golygu:

  • Sicrhau bod ansawdd y cynnyrch a gynigiwn yn bodloni ac yn rhagori ar ddisgwyliadau’r ymwelwyr.
  • Cyfleu negeseuon marchnata clir a chydgysylltiedig i ddarpar ymwelwyr.
  • Sicrhau bod gan ein busnesau twristiaeth a’n staff y sgiliau iawn i roi gwasanaeth o’r safon orau i’n hymwelwyr.

Rydym yn gweithio ar draws pob un o’r tair thema yma, yn datblygu’r hyn sydd gennym i’w gynnig i’r ymwelydd, y marchnata a’r sgiliau, ac yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid.?