Search
Amdanom Ni
Mae Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru’n un o 4 Partneriaeth Dwristiaeth Ranbarthol yng Nghymru a sefydlwyd i ddatblygu a hybu twristiaeth ar draws ardal y Canolbarth. Ni yw’r prif gorff strategol ar gyfer twristiaeth yn y Canolbarth.
Rydym wedi ein cyfansoddi fel corff partneriaeth sector cyhoeddus / preifat sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Gweithredwn ar draws siroedd Powys, Ceredigion ac ardal Meirionnydd yng Ngwynedd ac mae ein Bwrdd Cyfarwyddwyr yn adlewyrchu’r cydbwysedd hwn gyda chynrychiolwyr o bob un o’r tri Awdurdod Lleol, dau Barc Cenedlaethol, y Cymdeithasau Masnach ar gyfer Twristiaeth Genedlaethol a Rhanbarthol a busnesau twristiaeth unigol.



