Marchnata Arlein ar gyfer Busnesau Twristiaeth
29 Chwefror 2012 – Y Merlod a´r Cobiau Cymreig, Bronaeron, Felinfach, Llambed, Ceredigion, SA48 8AG
Amser: 10am tan 4pm (yn cynnwys lluniaeth)
Cost: £25 y pen (gyda chymhorthdal gan Bartneriaeth Busnes Twristiaeth Ddigidol y DTBP)
Gweithdy rhyngweithiol yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Y nod yw cynorthwyo busnesau twristiaeth i ddefnyddio’u Gwefannau a dulliau marchnata arlein hyd eithaf eu potensial. Bydd arweiniad hefyd ar sut i fanteisio orau ar Gyfryngau Cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Bydd cyfle i ddefnyddio cyfrifiaduron yn ystod y cwrs. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar y cwrs er mwyn sicrhau bod digon o amser i roi cyngor ac argymhellion manwl i’r busnesau hynny sy’n mynychu.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â defnyddwyr gydag ychydig mwy o brofiad. Caiff egwyddorion sylfaenol marchnata arlein eu cyflwyno ynghyd â chyngor syml ar sut i ddenu rhagor o ymwelwyr i’ch Gwefan – ac yn y pendraw, denu rhagor o fusnes i chi!
Dyma’r prif bynciau a gaiff sylw:
Gwefannau
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr i’ch Gwefan a gaiff eu troi yn brynwyr
- Gwella dyluniad eich Gwefan – gan gynyddu cyflymdra ac ychwanegu nodweddion newydd
- Addasu eich Gwefan ar gyfer ffonau smart
- Cyflwyno camau syml i gynyddu nifer y bobl sy’n dod ar draws eich Gwefan – hynny yw, Optimeiddio’r Peiriannau Chwilio (SEO) ar gyfer eich Gwefan chi.
- Adeiladu Dolenni – Cynyddu nifer y dolenni safonol at eich Gwefan
- Talu-Fesul-Clic – Sut i hysbysebu mewn dull cost effeithiol ar Google a Facebook, gan ostwng costau ac olrhain canlyniadau perfformiad
- Ystadegau Gwefan – Sut i gadw golwg ar nifer y bobl sy’n defnyddio’ch Gwefan a defnyddio’r wybodaeth hynny i wella’ch Gwefan.
Cyfryngau Cymdeithasol
- Sut i ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn denu mwy o fusnes a chyfathrebu gyda chwsmeriaid.
- Tudalennau Facebook ar gyfer busnesau – Sut i’w sefydlu a’u defnyddio er budd eich busnes.
- Cynyddu nifer y bobl sy’n “Hoffi” eich tudalen Facebook
- Twitter a strategaethau ar gyfer busnes
- Codau QR – Beth ydyn nhw, sut mae eu creu nhw a sut mae eu defnyddio i yrru ymwelwyr at eich Gwefan
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan gwmni Gwasanaethau Busnes InSynch Cyf. sydd â blynyddoedd o brofiad ymarferol ac arbenigedd ym maes marchnata arlein.
Y Meini Prawf
I fod yn gymwys, bydd yn rhaid i fusnes ddangos:
- ei fod yn fusnes twristiaeth cyfredol
- ei fod o fewn y diffiniad Ewropeaidd o Fusnes Bach neu Ganolig mewn ardal gydgyfeirio 65% yng Nghymru (sy’n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych a Gwynedd) a'i fod o fewn y cyfyngiadau ariannu cymorth gwladwriaethol
- ei fod yn bodloni safonau graddio/sicrhau ansawdd (unrhyw un o'i bartneriaid) ar gyfer y sector, os oes safonau o'r fath
Online Marketing for Tourism Businesses
29th February 2012 – Welsh Pony and Cob Society, Bronaeron, Felinfach, Lampeter, Ceredigion, SA48 8AG
Time: 10am until 4pm - refreshments will be provided
Cost: £25 per delegate (This course is subsidised by the DTBP)
This interactive workshop will cover a wide range of subjects that are all aimed at helping tourism businesses to maximise the potential of their Websites and online marketing. In addition how to get the most from Social Media including Facebook and Twitter. Delegates will be able to use computers during the course. The number of delegates on the course is limited in order to allow time for detailed advice and recommendations for those attending.
Suitable for both beginners and intermediate users, this course will cover some of the basics and also provide tips and simple solutions to get more visitors to your Website and ultimately get more business!
Subjects covered will include:
Websites
- Improving Website conversion rates – Converting more Website visitors into buyers
- Improving Website Design – Improving speed, adding features
- Making your website smartphone friendly
- Simple steps to improve a Website so it is seen by more people more often – commonly referred to as Search Engine Optimisation
- Link Building – How to build more quality links to your Website
- Pay-per-click – Cost effective advertising on Google and Facebook, reducing costs and tracking performance.
- Website statistics – How to install and monitor, see exactly how people use your Website and use the information to improve your Website
Social Media
- How to use Social Media as a tool for getting more business and communicating with customers
- Facebook Pages for Busineses – Getting started and making them work for your business
- Getting more likes to your Facebook page
- Twitter and strategies for business
- QR Codes – What are they, how to create one and how to use them to drive traffic to your Website
This course is delivered by InSynch Business Services Ltd., who have years of hands on experience and expertise in online marketing.
Eligibility
Delegates must:
- Be an existing tourism business
- Be within the European definition of a Small Medium Enterprise (SME) Wales 65% convergence area (including Carmarthen, Ceredigion, Conwy, Denbighshire and Gwynedd) and State Aid funding limits
- Meet (with any of its partners) appropriate grading/quality assurance standards for the sector, where such exist
Course: 29/02/2012 in Lampeter.
Phone us to book on: 01970 630077
Or book online below
SORRY FULLY BOOKED